Pont Britannia
Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal heddiw er mwyn trafod cynlluniau adeiladu trydedd bont dros y Fenai.

Bydd Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith, Ken Skates yn ymgynghori â phobol sydd â diddordeb mewn adeiladu’r bont ac yn trafod y modd gorau o’i hadeiladu.

Ar hyn o bryd, mae dwy bont yn cysylltu Gwynedd ac Ynys Môn – Pont Britannia a Phont Menai – ond mae problemau traffig yn aml ac mae Pont Britannia ar gau i loriau mewn gwyntoedd cryf.

Mae’r posibiliad o wella Pont Britannia trwy ddarparu tair lôn gul â system draffig llanw a thrai wedi cael ei diystyru gan y Llywodraeth yn dilyn asesiad risg a mynegiant pryderon y gwasanaethau brys.

Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu yn y gorffennol y gallai gwaith adeiladu ar drydedd bont ddechrau mor fuan â 2021.

“Budd Amlwg”

“Mae fy ymrwymiad i godi trydedd bont dros y Fenai, a’r budd amlwg i gymunedau lleol a’r economi yn sgil hynny, wedi bod yn glir o’r dechrau’n deg. Yn aml mae’r system bresennol o dan straen oherwydd y nifer aruthrol sy’n ei defnyddio,” meddai Ken Skates.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn gweithredu ar unwaith i edrych ar sut gallwn wella mynediad. Yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio yw codi pont newydd ac rydym yn awr yn datblygu’r opsiwn hwnnw mewn ymgynghoriad â’r rheini sydd â diddordeb ynddo i weld yr hyn sy’n bosibl.”