Ken Skates
Mae Ysgrifennydd yr Economi Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw bod dros 250 o swyddi newydd yn cael eu creu yn ne Cymru.
Mae Ken Skates wedi cyhoeddi y bydd 256 o swyddi yn cael eu creu gan bedwar cwmni yng Nghaerffili, Trefynwy, Abertawe ac yn y Maerdy.
Gyda help ariannol gan Lywodraeth Cymru, bydd BBI Group yn buddsoddi £8.5 miliwn yng Nghaerffili a’r gobaith yw bydd 360 o swyddi wedi’u creu erbyn 2020.
Mae gan y BBI Group nifer o gyfleusterau gweithgynhyrchu yn y DU ynghyd â phrif swyddfa yng Nghaerdydd.
Ar ôl ymchwiliad mewnol, penderfynwyd symud i Barc Technoleg Border, Crymlyn lle bydd y cwmni’n gallu dod â’i holl waith gweithgynhyrchu a datblygu sydd ar hyn o bryd yn cael ei gynnal ym Mlaenafon, Caerdydd a Dundee o dan yr un to.
Bydd y cynhyrchydd cyfansoddion rwber SPC, gyda chyfraniad £150,000 gan Lywodraeth Cymru, yn agor ffatri newydd ger Maerdy a fydd yn creu hyd at 40 o swyddi newydd dros y ddwy flynedd nesaf.
Yn Abertawe, mae BT yn ehangu ei ganolfan gyswllt i gwsmeriaid trwy greu 100 o swyddi newydd.
Mae Ken Skates hefyd wedi cyhoeddi y bydd Siltbuster yn buddsoddi £4.3 miliwn i ehangu ei weithfeydd yn Nhrefynwy, gan greu 66 o swyddi newydd.
“Mwy nag erioed mewn gwaith”
“Mae’r swyddi yn y pedwar cwmni’n brawf o waith caled Llywodraeth Cymru y tu ôl i’r llenni i gefnogi busnesau a’u helpu i symud i Gymru neu i ddiogelu neu ehangu eu gweithgareddau yma,” meddai Ken Skates.
“Mae economi Cymru wedi cymryd camau aruthrol ymlaen yn y blynyddoedd diwethaf gyda bron mwy o bobl nag erioed mewn gwaith a chyfradd cyflogaeth sy wedi tyfu’n fwy na chyfartaledd y DU yn y 12 mis diwethaf.”