Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff dynes mewn car mewn maes parcio yn Abertawe.

Does dim esboniad gan Heddlu’r De ar hyn o bryd, ond fe gawson nhw eu galw am 11.15 y bore ma.

Cafodd y corff ei ddarganfod mewn maes parcio ar Northampton Lane, sydd dafliad carreg o ganolfan Tŷ Tawe ar gyrion y Kingsway.

Mae ymchwiliad ar y gweill.