Liz Saville Roberts (Llun: Plaid Cymru)
Fe fydd Aelod Seneddol Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts yn cyflwyno Mesur Aelod Preifat yn San Steffan ddydd Mercher er mwyn ceisio atal croesholi unigolion yn y llys sydd wedi cael eu treisio.

Ar hyn o bryd, mae’r gyfraith yn caniatâu i ddioddefwyr gael eu holi am eu hanes rhywiol, eu hymddygiad blaenorol neu’r ffordd maen nhw’n edrych neu’n gwisgo.

Mae’r elusen Voice4Victims wedi bod yn cydweithio â Liz Saville Roberts ar y Mesur.

Mae nifer o astudiaethau’n dangos bod bylchau mawr yn y gyfraith a’r drefn bresennol, lle mae dioddefwyr wedi cael eu holi am eu hanes rhywiol, defnydd o alcohol neu salwch iechyd meddwl, ynghyd â’r dillad roedden nhw’n eu gwisgo pan gawson nhw eu treisio.

Mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer 2015-16 yn dangos bod 35,798 o gwynion wedi cael eu cofnodi gan yr heddlu, ond dim ond 7.5% o achosion a arweiniodd at euogfarn.

Mesur Aelod Preifat

Mae Mesur Liz Saville Roberts wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol.

Bydd y Mesur yn debyg i’r ‘Gyfraith Tarian Trais’ yn yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia, lle bydd y gyfraith yn atal dioddefwr rhag rhoi tystiolaeth am ddillad, agwedd, ymddygiad neu hanes rhywiol.

Bydd hefyd yn atal yr hyn sy’n cael ei alw’n “chwedl ddeuol”, sy’n rhagdybio bod menyw sydd wedi cael rhyw gydag un dyn yn fwy tebygol o gydsynio gyda rhywun arall, a bod tystiolaeth menyw sydd â mwy nag un partner rhywiol yn llai credadwy.

Mae tystiolaeth wedi tynnu sylw at nifer sylweddol o achosion lle cafodd dioddefwyr eu holi am eu hanes rhywiol, ac fe gafodd tystiolaeth am hanes rhywiol dioddefwr ei ganiatâu ar fore’r achos nifer o weithiau.

Mae’r Mesur hefyd yn gwahardd yr Heddlu dan rai amgylchiadau rhag datgelu pwy yw dioddefwr wrth ymosodwr dieithr.

Mae hefyd yn ymestyn amred y troseddau difrifol sy’n gallu cael eu cyfeirio at y Llys Apêl ar sail gor-drugarogrwydd.

Mae’n newid y gofynion ar wrandawiad rheolau sylfaenol i wneud yn glir nad yw croesholi ar sail hanes rhywiol yn dderbyniol.

‘Ddim yn iawn nac yn gyfiawn’

Dywedodd llefarydd Materion Cartref Plaid Cymru, Liz Saville Roberts: “Dyw hi ddim yn iawn nac yn gyfiawn i ddioddefwr trais allu cael ei holi yn y llys ar faterion nad ydyn nhw’n berthnasol i’r achos dan sylw.

“Ac eto yn gymharol ddiweddar, codwyd cywilydd ar ddioddefwyr gan gyfreithwyr yn holi cwestiynau am eu partneriaid rhywiol, eu dillad a’u pryd a’u gwedd.

“Bydd arferion felly yn sicr yn gwneud dioddefwyr yn amharod i ddod ymlaen ac yn fwy tebygol o dynnu cwynion yn ôl, ac y mae tystiolaeth hanesiol eisoes fod achosion proffil uchel gyda thystiolaeth o’r fath yn cael ei ddefnyddio wedi arwain at ostyngiad yn nifer y menywod sy’n dod ymlaen.

“Diben creiddiol y Mesur hwn yw atal cwestiynau niweidiol ac ymyrrol o’r fath.

“Cyflwynwyd Cyfreithiau Tarian Trais mewn gwledydd eraill i amddiffyn dioddefwyr rhag y gwewyr emosiynol o gael eu cwestiynu am eu hanes rhywiol yn y tystle, ac y mae’n amser i ddioddefwyr yma gael yr un warchodaeth.”