Mae dyn a dynes wedi marw, a dyn arall wedi cael anafiadau difrifol yn dilyn gwrthrawiad rhwng Arberth a Princes Gate y bore ma.
Digwyddodd y gwrthdrawiad un cerbyd, Volkswagen Beetle melyn, ger cyffordd Llan Mill a Llanbedr Felffre ar ffordd B4314.
Bu farw’r dyn oedd yn gyrru’r car, ynghyd â dynes oedd yn teithio yn y cerbyd.
Mae dyn arall oedd yn teithio yn y car mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn Ysbyty Glangwili.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101.