Mosg yn Abertawe
Fe fydd mosgiau Cymru’n agor eu drysau i’r cyhoedd heddiw fel rhan o ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r ffydd Islamaidd.
Dyma ail flwyddyn yr ymgyrch, ac mae 150 o fosgiau’n cymryd rhan ledled gwledydd Prydain.
Bydd mosgiau ar agor i’r cyhoedd yn Abertawe, Bangor, Caerdydd, Casnewydd, Y Rhyl a Wrecsam.
Ymunodd 2,000 o bobol â’r ymgyrch y llynedd.
Mae pwys ychwanegol yn cael ei roi ar y digwyddiad eleni yn dilyn penderfyniad Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump i wahardd pobol – y rhan fwyaf ohonyn nhw’n Fwslimiaid – rhag teithio i’r wlad.
Mae ei weithredoedd wedi arwain at brotestiadau ar draws y byd, ac mae miloedd o bobol wedi cymryd rhan yng Nghymru.
‘Estyn allan’
Mae llefarydd cydraddoldeb y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Cadan ap Tomos wedi galw am “estyn allan” yn y gymuned.
Fe fydd e’n ymweld â mosg Dar Ul-Usra yng Nghaerdydd heddiw.
Mewn datganiad, dywedodd: “Mae lleisiau diffyg goddefgarwch a rhaniadau’n uwch nag ydw i erioed wedi ei weld.
“Gyda chynnydd enfawr mewn troseddau casineb yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dw i’n gofidio am yr effaith mae dadleuon cenedlaethol rhanedig ynghylch Brexit a mewnfudwyr yn ei chael ar ymlyniad cymunedau ledled Cymru.
“Rhaid i bob un ohonon ni helpu i bontio’r rhaniadau hyn yn ein cymunedau.
“Dyna pam dw i’n ymweld â mosg heddiw, er mwyn cryfhau’r cysylltiadau rhwng gwahanol rannau fy nghymuned, ac i ddathlu cyfraniad Mwslimiaid i’n hardal leol.”