Cefnogwyr Cymru'n dathlu yn Ffrainc yn ystod Ewro 2016 (Llun: Martin Rickett/PA)
Stori “am lwyddiant annisgwyl” ac am “wlad yn darganfod ei lle yn y byd” sydd i’r ffilm Don’t Take Me Home, meddai’r cyfarwyddwr Jonny Owen wrth Golwg360.

Daeth cyhoeddiad ddoe y byddai’r ffilm am brofiadau tîm pêl-droed Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2016 yn cael ei dangos am y tro cyntaf fis nesaf.

Bydd modd gweld  Don’t Take Me Home o Ddydd Gŵyl Dewi ymlaen.

“Stori am lwyddiant annisgwyl yw’r ffilm a hefyd stori am wlad yn darganfod ei lle yn y byd,” meddai Jonny Owen.

“Ni yw’r wlad leiaf i gyrraedd rownd gynderfynol prif gystadleuaeth, fe guron ni gwlad fwyaf y byd Rwsia ac mi guron ni ffefrynnau’r gystadleuaeth yn y rownd gogynderfynol. Felly oeddwn i’n meddwl ei bod hi’n ffilm brydferth i’w gwneud.”

Stori’r cefnogwyr

Er mwyn casglu deunydd ar gyfer y ffilm, bu Jonny Owen yn cyfweld â’r holl chwaraewyr a bu’n ddigon ffodus i dderbyn deunydd o’r tu ôl i’r llenni gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, ond roedd safbwynt y cefnogwyr yn bwysig iddo hefyd.

“Fy nghynllun oedd cael deunydd gan y cefnogwyr fel fy mod yn medru dangos eu stori nhw a’u cyffro yn Bordeaux a Tolouse,” meddai. “Dw i’n credu mai dyma’r defnydd mwyaf o ddeunydd ffonau symudol sydd erioed wedi bod mewn ffilm.”

Mae’r cyfarwyddwr yn pwysleisio pwysigrwydd y cefnogwyr yn y ffilm gan nodi “roedden ni’n wych, nid yn unig ar y cae ond i ffwrdd o’r cae hefyd.”

Chris Coleman a’i dîm

Mae’n cyfeirio at gyfweliad gyda rheolwr Cymru, Chris Coleman fel “un o’r cyfweliadau gorau dw i erioed wedi’i gael”, gan nodi ei fod yn “siarad yn arbennig, ry’ chi’n gallu gweld sut mae’n cael ymateb mor dda gan y chwaraewyr.”

Er gwaetha’ cryfder y rheolwr, mae e hefyd yn cymeradwyo’r chwaraewyr gan dynnu sylw at eu cyfraniad nhw i apêl y stori gan ddweud “mae’r tîm i gyd yn hoffus, erbyn diwedd y gystadleuaeth roedd llwythi o bobol oedd yn cefnogi’r tîm oedd â dim diddordeb ym mhêl-droed.”

Mae’n sôn am olygfa yn y ffilm lle mae’r tîm yn chwarae tenis bwrdd – golygfa sydd yn pwysleisio pa mor agos oedd y chwaraewyr at ei gilydd, a chymaint oedden nhw’n mwynhau.

Y da a’r drwg

Er mai awyrgylch bositif sydd i’r ffilm, caiff agweddau da a drwg ar daith tîm Cymru sylw, gan gynnwys “gwrth-Gymreictod yn y cyfryngau” Seisnig, a methiant y tîm yn erbyn Portiwgal.

“Dyw’r ffilm ddim yn orfoleddus o gwbl, mae’n gorffen trwy ddweud, ‘Aethom ni a wnaethon ni drio ein gorau.”

Cyfweliad: Iolo Jones