Mae disgwyl tywydd garw mewn rhannau o Gymru ddydd Llun.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn dweud y gallai Cymru wynebu glaw a gwyntoedd cryfion o hyd at 50 milltir yr awr.

Fe allai hyd at 20mm o law gwympo ledled gwledydd Prydain, gyda gwyntoedd yn cyrraedd cyflymdra o 60 milltir yr awr yn yr Alban.

Ar gyfartaledd, mae 100mm o law yn cwympo yn ystod mis Chwefror cyfan, ond fe allai 20% o’r cyfanswm hwnnw gwympo mewn un diwrnod ddydd Llun.

Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd yn rhybuddio y gallai’r tymheredd mewn nifer o rannau deheuol o wledydd Prydain ostwng dros y penwythnos.