Mae BBC Radio 4 wedi ennyn ymateb chwyrn ar ôl i raglen ‘Any Questions’ ofyn i’r panel a fydden nhw’n blaenoriaethu ariannu’r Gymraeg neu wasanaethau gofal.

Cafodd y cwestiwn ei ofyn ar y rhaglen neithiwr oedd yn cael ei darlledu o Dywyn yn Sir Feirionnydd.

Ar y panel roedd cyn-Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb, arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, llefarydd amddiffyn y Blaid Lafur Nia Griffith a Changhellor Prifysgol Aberystwyth Syr Emyr Jones Parry.

Y cwestiwn y bu’n rhaid iddyn nhw ei ateb oedd ‘O ystyried cyfyngiadau ariannol a chostau, pa un fyddai’r panel yn ei ddewis, yr iaith Gymraeg neu’r gyllideb ar gyfer gofal?’.

Gofal

Dau o’r panel oedd wedi dewis y gyllideb ar gyfer gwasanaethau gofal, sef Nia Griffith a Stephen Crabb.

Dywedodd Nia Griffiths y byddai hi “yn sicr” yn dewis y gyllideb ar gyfer gofal, gan mai “gofal yw’r brif flaenoriaeth mewn cymdeithas”.

Dywedodd Stephen Crabb ei fod yn “cytuno â Nia”, gan ychwanegu “pa fath o arian sy’n cael ei wastraffu” ar sicrhau bod deunydd yn cael ei gynhyrchu’n ddwyieithog.

Yr iaith Gymraeg

Ond wrth daro nôl, anghytunodd Syr Emyr Jones Parry a Leanne Wood, gan ddadlau na ddylai fod yn fater o ddewis rhwng y naill neu’r llall.

Yn ei ateb yntau, dywedodd Syr Emyr Jones Parry: “Ni all fod yn fater o’r naill neu’r llall.

“Fyddwn i ddim yn derbyn y dylid arallgyfeirio arian sy’n cael ei wario ar y Gymraeg i wasanaethau gofal.

“Mae’n fater o’r hyn y mae cael dwy iaith yn ei olygu. Mae’n cyfoethogi.

“Dylid defnyddio’r ddwy iaith mewn modd naturiol.”

Wrth gyfeirio’i hateb hithau’n uniongyrchol at Stephen Crabb, dywedodd Leanne Wood: “Os ydych chi’n caru’r iaith Gymraeg, rhaid i chi weithredu ar eich gair.

“Pe baech chi’n torri pob ceiniog sy’n cael ei gwario ar y Gymraeg, fyddai’n gwneud dim gwahaniaeth o gwbl i’r gyllideb ofal.”

Ymateb ar Twitter

Mae’r cwestiwn wedi ennyn ymateb chwyrn ar wefan gymdeithasol Twitter: