Yr ymgyrchydd iaith Emyr Llywelyn yw’r diweddaraf i wrthod talu ei drwydded teledu fel rhan o ymgyrch i ddatganoli darlledu i Gymru.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae bellach “degau o bobol” wedi cytuno i wrthod talu’r drwydded er mwyn pwyso ar Lywodraeth San Steffan i drosglwyddo pwerau darlledu i’r Senedd ym Mae Caerdydd.

Mae’r mudiad yn dadlau bod yr adolygiad ar ariannu S4C, sydd i fod digwydd eleni, yn gyfle i godi’r mater o ddatganoli’r cyfrifoldeb tros ddarlledu.

“Rhaid datganoli darlledu o ran swyddi a chynnwys y rhaglenni er mwyn iddyn nhw roi cyfle i greadigrwydd y cymunedau Cymraeg. Ein llais ni fel pobl ddylai gael ei glywed ar y cyfryngau,” meddai Emyr Llywelyn, a gafodd ei garcharu am ei ran yn yr ymgyrch yn erbyn boddi Cwm Tryweryn.

“Os mai’r bobl biau’r cyfrwng mae datganoli darlledu yn hanfodol er mwyn rhyddhau creadigrwydd pobl ifanc yn ein bröydd.”

Torri ar gyllideb S4C

Mae cyllideb S4C wedi cael toriadau o 40% i’w chyllideb ers 2010 ac mae Gweinidog yn Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan wedi cadarnhau y bydd y sianel yn derbyn £700,000 yn llai’r flwyddyn nesaf.

“O ddiffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol, teledu lleol a’r toriadau difrifol i S4C i’r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau, mae’n glir nad yw Llundain yn rheoli’r cyfryngau er budd pobl Cymru,” meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Mae angen i’r penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael ei wneud gan bobl Cymru.  Mae’n bryd datganoli darlledu.”

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus i hyrwyddo’r ymgyrch dros ddatganoli darlledu.

Guto Bebb – cyfle i drafod

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Swyddfa Cymru ond fe ddywedodd Guto Bebb, is-ysgrifennydd Cymru, ym mis Medi y bydd yr adolygiad yn gyfle i drafod datganoli.

Dywedodd wrth golwg360 ei fod “eto i gyfarfod neb o’r diwydiant teledu sydd eisiau datganoli darlledu”. Ond ychwanegodd y bydd y mater “yn gallu cael ei drafod yn yr un modd â phroses gyllido’r sianel, yn yr un modd â blaenoriaethau rheolaethol y sianel”.

 Mae disgwyl yr adolygiad ar S4C i ddigwydd “yn fuan” yn ôl San Steffan.