Adam Price
Byddai peidio buddsoddi £6m yn Yr Egin – cartref newydd S4C yng Nghaerfyrddin –  yn peryglu dyfodol  Bargen Ddinesig Abertawe gwerth £1.3 biliwn, yn ôl gwleidyddion amlycaf Plaid Cymru yn yr ardal.

Mae’r Aelodau Cynulliad Adam Price a Simon Thomas, ynghyd â’r Aelod Seneddol Jonathan Edwards, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r “prosiect di-berygl” o symud pencadlys S4C i’r ardal – cefnogaeth a fyddai yn golygu rhoi £6 miliwn o’r pwrs cyhoeddus at godi adeilad newydd Yr Egin.

Ond mae gwleidydd o’r un blaid, Siân Gwenllian, AC Arfon, eisoes wedi dweud ei bod hi’n bryd hepgor Caerfyrddin a symud y pencadlys i Gaernarfon.

Daw galwadau’r tri gwleidydd o Gaerfyrddin ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod grŵp o ymgynghorwyr wedi argymell peidio rhoi arian cyhoeddus i’r Egin.

Mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant, sydd y tu ôl i’r cynllun fydd hefyd yn cynnwys lleoli cwmnïau creadigol ar y safle, wedi gofyn am £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r prosiect.

 Mae’n debyg bod y panel wedi ymgynghori Llywodraeth Cymru i beidio ariannu’r prosiect ar y sail bod safle tebyg yn Abertawe.

Rhybudd Adam Price

“Mae’r dyfalu parhaus [ynghylch Yr Egin] yn peryglu suddo nid yn unig prosiect Yr Egin, ond Bargen Ddinesig Bae Abertawe hefyd a’r buddsoddiad o £1.3 biliwn fydd yn dod i dde-orllewin Cymru dros y blynyddoedd nesaf,” meddai Adam Price AC.

“Mae’r fargen honno yn dechrau gyda’r Egin wrth ei gwraidd, ond gallai’r sïon beryglu’r gwerth £250 miliwn o fuddsoddiadau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

“Mae gan cam cyntaf prosiect Yr Egin y potensial i ddod â gwerth 850 o swyddi llawn amser a chynyddu GVA y rhanbarth o bron i £8 miliwn.”

Dywedodd yr Aelod Seneddol, Jonathan Edwards, dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, y gallai cael S4C yn yr ardal “drawsnewid y rhanbarth i gyd.”

“Does dim dadl resymol pam na ddylai Llywodraeth Cymru gefnogi’r prosiect hwn, a byddem yn annog yr Ysgrifennydd Economi i gefnogi’r prosiect a chefnogi gorllewin Cymru.”

Ceiniogwerth Simon Thomas

Yn ôl yr Aelod Cynulliad rhanbarthol, Simon Thomas, byddai peidio ag ariannu’r prosiect yn “dangos bod Llywodraeth Cymru’n credu bod Cymru’n stopio yn Abertawe.”

Galwodd ar y llywodraeth i drafod â’r brifysgol i ystyried y gefnogaeth ariannol eto ac i “leihau’r risg ariannol i’r trethdalwr.”

“Os yw’r llywodraeth yn credu mewn buddsoddi a datblygu economaidd ym mhob rhan o Gymru, rhaid iddo gefnogi’r Egin a’r Fargen Ddinesig ehangach.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cael sawl trafodaeth â S4C a phartneriaid eraill sy’n rhan o’i chynlluniau i symud ei phencadlys i Gaerfyrddin a datblygiadau ehangach ar y safle.

“Mae’r trafodaethau hynny’n parhau ac mae’r ffaith yn aros bod unrhyw gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ond yn gallu cael ei hystyried os oes achos busnes manwl yn cael ei gyflwyno sy’n egluro ac yn rhoi tystiolaeth o fuddiannau economaidd, diwylliannol ac ieithyddol y datblygiad ac yn dangos pam bod angen ymyrraeth y sector cyhoeddus i’w gyflawni.”