Mae disgwyl i wyntoedd cryfion mor gyflym â 70 milltir yr awr daro rhannau o Gymru.

Rhwng heddiw ac yfory bydd rhybudd melyn dros dde orllewin Cymru a de ddwyrain Lloegr, ardaloedd lle mae disgwyl y bydd gwyntoedd ar eu cryfaf.

Er bod adroddiadau anghywir yn honni mai storm aeafol fydd yn taro, yn ôl y Swyddfa Dywydd bydd y gwyntoedd yn ddigon cryf i achosi i goed gwympo a bydd problemau trafnidiaeth.

Mae’n bosib fydd eirlaw dros dir uwch yn bennaf dros fynyddoedd Cymru ond hefyd dros fannau yng ngogledd orllewin Lloegr ac yn yr Alban.

Gall gwerth hanner mis o law, tua 89mm, syrthio dros rhai mannau o Brydain heddiw gyda dynion tywydd yn rhagweld rhyw 1.6 modfedd i ogledd Cymru.

Gwyntoedd 60-70mya

“Yn y Deyrnas Unedig rydym yn debygol o weld gwyntoedd hyd at 60-70 milltir yr awr,” meddai’r Dyn Tywydd Alex Burkill.

“Bydd y gwyntoedd cryfaf ar hyd yr arfordir ac nid oes modd diystyru’r posibiliad o wyntoedd 80 milltir yr awr ar hyd ardaloedd arfordir deheuol Prydain.”