Mae Heddlu Gwent wedi dod o hyd i gorff dynes mewn cronfa ddŵr yng Nghoed Gwent ger Casnewydd.

Dywedodd yr heddlu bod swyddogion arbenigol bellach yn ceisio adnabod y corff ac mae dyfalu mai Sandie Bowen ydyw, a gafodd ei llofruddio gan ei gŵr yn 1997.

Ond mae’r heddlu wedi gofyn i’r cyhoedd beidio dod i unrhyw gasgliadau gan fod yr ymchwilio’n parhau.

Mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101, gan ddyfynnu 454 14/1/17.