Llun o'r hyn fydd Yr Egin, o bosib. (Llun: Prifysgol y Drindod Dewi Sant)
Mae adroddiadau heddiw bod grŵp o ymgynghorwyr wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru nad oes “sail” i roi arian cyhoeddus i’r adeilad fyddai yn gartref i bencadlys S4C yng Nghaerfyrddin.

Yn ogystal â chartref i’r Sianel Gymraeg, byddai adeilad Yr Egin yn gartref i sawl cwmni creadigol arall, yn ôl Prifysgol y Drindod Dewi Sant.

Mae’r Brifysgol wedi gofyn am £6m gan Lywodraeth Cymru i adeiladu’r Egin, adeilad sydd i fod i agor y flwyddyn nesaf.

Ond yn ôl y BBC, mae’r panel ymgynghorol ar y diwydiannau creadigol sy’n cynghori Llywodraeth Cymru, wedi casglu bod cwmnïau creadigol eisoes yn bodoli yn Abertawe ac felly nad oes angen hwb ariannol ar brosiect Yr Egin.

Enillodd Prifysgol y Drindod Dewi Sant y ras i gael adeiladu campws S4C yng Nghaerfyrddin, wedi i gais tebyg am symud y pencadlys i Gaernarfon fethu.

Mae S4C wedi mynnu y bydd y symud yn gost niwtral er bod rhaid iddyn nhw dalu gwerth £3 miliwn o rent ‘rhag-blaen’ i’r Brifysgol.

Mae S4C wedi dweud nad ydyn nhw am ymateb gan nad ydyn nhw wedi clywed dim byd swyddogol gan y Llywodraeth.

‘Prosiect trawsnewidiol’ 

Mewn datganiad dywedodd Prifysgol y Drindod Dewi Sant: “Mae’r Brifysgol wedi nodi o’r cychwyn cyntaf bod Yr Egin yn brosiect trawsnewidiol sydd yn cynnig cyfle i ddwyn ynghyd amcanion polisïau economaidd, diwylliannol ac ieithyddol, sydd wedi eu cynnwys mewn nifer o bortffolios allweddol y llywodraeth.

“Ni chynigir y cyfle hwn gan unrhyw ddatblygiad arall yn y rhanbarth.  Mae’r sylwadau trawsbleidiol yn ategu pwysigrwydd y datblygiad i economi ardal wledig.

“Fe fydd Yr Egin yn sefydlu cwmnïau newydd a swyddi dwyieithog newydd. Bydd y rhain yn ychwanegol at swyddi o fewn S4C. Mae’r Brifysgol wedi cyflwyno gwybodaeth i’r Llywodraeth sy’n dangos sut gall menter o’r fath fod yn gatalydd yn y rhanbarth ac mae’n edrych ymlaen at drafodaeth bellach ag Ysgrifenyddion y Cabinet ynghylch y fenter hon.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.