Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi anfon swyddogion i Bort Talbot i ddelio â phrotest yn yr orsaf bwer biomas.

Yn ôl adroddiadau, mae tua 40 o bobol wedi ymgynnull. Does neb wedi’i arestio hyd yma.

“Nod Heddlu De Cymru yw ei gwneud hi’n bosib i bawb brotestio’n heddychlon,” meddai llefarydd ar ran y llu.