Myfyrwyr (Llun: PA)
Am y tro cynta’, mae mwy o fyfyrwyr yn dewis mynd dros Glawdd Offa i am eu haddysg brifysgol na’r nifer sy’n aros yng Nghymru.

Yn ôl ffigurau diweddaraf UCAS ar gyfer 2017, mae 15,240 o fyfyrwyr o Gymru yn astudio mewn prifysgolion yn Lloegr, tra bod 14,890 wedi aros yng Nghymru.

Mae’r ffigurau wedi newid tipyn ers 2013, pan oedd 14,900 o fyfyrwyr Cymru yn Lloegr a 16,180 yng Nghymru.

Mae’r Aelod Cynulliad, Llŷr Gruffydd, sy’n llefarydd Plaid Cymru ar Addysg, wedi dweud bod angen i Lywodraeth Cymru mynd i’r afael â’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘mudo ‘mennydd’ neu brain drain.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod y ffigurau wedi lleihau ond mae’n mynnu bod y nifer sy’n mynd i brifysgolion yng Nghymru yn dal i fod yn iach.

Llai o fyfyrwyr yr Undeb Ewropeaidd

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos bod y nifer o fyfyrwyr rhyngwladol – o’r Undeb Ewropeaidd a thu hwnt – sy’n ceisio am le mewn prifysgol yng Nghymru wedi lleihau.

Yng ngwledydd eraill Prydain – Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon – mae nifer y myfyrwyr rhyngwladol y tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd wedi cynyddu.

Yn dilyn cyhoeddi’r ffigurau, mae Llywodraeth Cymru wedi ategu ei chroeso i fyfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd i ddod yma i astudio.

“Methu cadw y goreuon a’r disgleiriaf”

Yn ôl Llŷr Gruffydd, mae angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu polisïau er mwyn cadw myfyrwyr yng Nghymru, neu eu hannog i ddod yn ôl.

“Mae’r ystadegau diweddaraf am ymgeiswyr a gyhoeddwyd heddiw yn tanlinellu y dylai’r Llywodraeth weithredu ar frys i atal y dylifiad dawn sydd ar hyn o bryd yn bla ar brifysgolion Cymru a’r economi yn ehangach,” meddai.

“Mae’r ffigyrau yn newyddion drwg ar dri ystyr, ac yn dangos sut mae Llywodraeth Lafur Cymru yn methu pan mae’n fater o gadw a denu’r goreuon a’r disgleiriaf.

“Mae angen gwneud llawer mwy i annog myfyrwyr i aros neu ddychwelyd i Gymru i astudio. Rhaid i ni droi’r ‘dylifiad dawn’ yn ‘fewnlifiad dawn’.”

“Croeso” i fyfyrwyr o Ewrop

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru: “Tra bu gostyngiad bychan o gymharu â’r llynedd, mae nifer y myfyrwyr 18 oed sy’n gwneud cais i’r brifysgol yn parhau’n uchel o gymharu â’r tuedd yn y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn disgwyl mwy o fyfyrwyr i fynd drwy’r system glirio.

“Fodd bynnag, gyda’r ansicrwydd ynghylch perthynas hir dymor y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd, rydym wedi gweld nifer y myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd sy’n gwneud cais i astudio yng Nghymru yn disgyn.

“Rydym yn glir bod croeso o hyd i fyfyrwyr ledled yr Undeb Ewropeaidd ym mhob un o Brifysgolion Cymru.”