Hen gerdyn post o bier Bae Colwyn
Mae rhan o bier Bae Colwyn wedi cwympo i’r môr.

Fe ddaeth cadarnhad gan Gyngor Conwy fod rhan o’r adeilad ar ben pella’r pier wedi cwympo. Dydi hi ddim yn bosib asesu’n llawn faint o ddifrod sydd ar hyn o bryd, meddai’r awdurdod, oherwydd fod y llanw i mewn.

Yn ddiweddar, fe ddadorchuddiwyd cynlluniau i adnewyddu’r pier Fictoriannaidd, wedi cyfnod lle bu ymgyrchwyr yn brwydro gadw’r pier yn agored.