Simon Thomas
Mae Simon Thomas, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros y Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi gofyn cwestiwn brys ar lawr y Senedd ynglŷn â phenderfyniad Llywodraeth San Steffan i gau swyddfa’r Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli – penderfyniad sydd yn tynnu 146 swydd allan o’r ardal. 

“Rydyn ni’n credu y dylai canolfannau gwaith cael eu datganoli,” meddai, “a bod cyfle wedi’i golli yn y Bil Cymru ddiweddar i amddiffyn y swyddi hyn yn Llanelli a ledled Cymru.

“Enwyd y swyddfa yn Llanelli fel un o’r swyddfeydd oedd yn perfformio orau o fewn yr Adran yn ddiweddar. Felly, nid oes cwestiwn am safon y gwaith oedd yn cael eu gwneud yno.

“Yn syml, mae Llywodraeth San Steffan yn gweld hyn fel cyfleustra gweinyddol a heb ystyried eu cyfrifoldebau eang i sicrhau a chynnal economïau a swyddi lleol,” meddai Simon Thomas wedyn.

“Mae’n bryderus dros ben bod Llywodraeth y Ceidwadwyr wedi gwrthod gwarantu’r swyddfeydd hyn yn Llanelli. Gallai adleoli cynnwys swyddfeydd mor bell â Sir Benfro a Chaerdydd? Mae hynny’n sefyllfa anodd iawn i rywun sy’n byw yn ardal Llanelli.”

Diolchodd y Gweinidog, Julie James, Simon Thomas am ei gyfres o gwestiynau, a chadarnhaodd bod sgyrsiau wedi eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan ynglŷn â “chyflogadwyedd ehangach” a’r posibiliadau o “gydleoli rhai swyddfeydd”.