Mae damwain wedi rhwystro un o’r priffyrdd yng Nghaerdydd, gan achosi dipyn o oedi yn ardal Croes Cwrlwys.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad ar yr A4050 yn ardal Ffordd San Andreas, ond roedd yr effaith ar draffig ben bore’r brifddinas hyd at Groes Cwrlwys ac ar ffordd yr A4231 i’r dociau ac i gyfeiriad Y Barri.

Er bod pethau’n dechrau arafu, mae yna dagfeydd o hyd yn ardal Croes Cwrlwys ac ar yr A4231.