Mae Heddlu De  Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad o garej betrol ym Mhontarddulais nos Fawrth.

Yn ôl adroddiadau, fe gafodd staff y garej Shell ar Heol Sant Teilo eu bygwth gan ddyn â morthwyl tua 6.50yh.

Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad.