Mae dynes oedrannus wedi marw yn dilyn digwyddiad yn ardal yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd pan darodd dau gerbyd yn erbyn tŷ.

Er na chafodd y ddynes 78 oed, a oedd yn byw yn y tŷ, ei hanafu yn y digwyddiad bnawn dydd Sul, 29 Ionawr cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’w chartref ddydd Llun ar ôl iddi gael ei tharo’n wael.

Bu farw’n ddiweddarach.

Mae ei theulu yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i’r digwyddiad am tua 4.10yp ddydd Sul ac yn apelio am dystion.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555111 gan nodi’r cyfeirnod 1700036549.