Mae RNIB Cymru wedi galw am welliannau i ddarpariaeth gwasanaeth gofal iechyd llygaid yng Nghymru yn dilyn adolygiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) sy’n dweud nad yw ysbytai yng Nghymru yn medru ymdopi gyda’r galw uchel.

Mae’r adolygiad hefyd yn dangos bod diffyg arweinyddiaeth a chynllunio â ffocws penodol gan fyrddau iechyd wedi arwain at anallu i ddarparu gofal diogel ac amserol i gleifion sydd â dirywiad macwlaidd “gwlyb”, sy’n gysylltiedig ag oedran (AMD gwlyb).

Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu yn dilyn pryderon ynglŷn â’r potensial i gleifion sydd a AMD gwlyb, ddioddef niwed wrth iddynt aros am driniaeth.

‘Anghyson’

Meddai Dr Kate Chamberlain, Prif Weithredwr AGIC: “Mae ein hadolygiad wedi canfod capasiti annigonol o fewn gwasanaethau offthalmoleg ledled Cymru, er mwyn trin rhai cleifion mewn modd amserol.

“Er y bu rhywfaint o arloesedd a oedd â’r nod o gynyddu capasiti, mae’r cynnydd wedi bod yn anghyson ledled Cymru.

“Canfuom fod angen gwneud rhagor o waith i ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael, er mwyn datblygu gwasanaethau llygaid cynaliadwy. Mae angen gwneud ymdrech o’r newydd i ddatblygu gwasanaethau gofal llygaid cynaliadwy, sy’n canolbwyntio ar y claf, er mwyn lleihau’r risg o niwed i gleifion.”

‘Cleifion yn colli eu golwg’

Meddai Cyfarwyddwr RNIB Cymru, Ceri Jackson: “Er bod yr adolygiad yn nodi rhai enghreifftiau o arfer da a chynnydd wrth wella gwasanaethau, mae hefyd yn dangos yr angen am waith a datblygiad parhaus mewn nifer o feysydd, yn benodol yr angen i sicrhau bod y capasiti o fewn gwasanaethau’n gallu diwallu’r galw cynyddol.

“Rydym yn cydnabod ac yn canmol ymroddiad a gwaith caled timau amlddisgyblaethol ledled Cymru, ond mae’r ffaith yn parhau bod pobl yn colli eu golwg oherwydd apwyntiadau’n cael eu hoedi. Mae’n hanfodol ein bod yn rhoi sylw i’r capasiti o fewn gwasanaethau llygaid ysbyty, er mwyn diwallu’r galw cyfredol a chynyddol.

Mae’r amser y mae angen ei aros i’r problemau hyn gael eu datrys yn golygu bod pobl yn colli eu golwg yn ddiangen, ac nid yw hynny’n dderbyniol.”

22 o argymhellion

Yn 2014 derbyniodd byrddau iechyd yng Nghymru £16 miliwn i ariannu gwasanaethau dirywiad macwlaidd “gwlyb” a chafodd y Cynllun Gweithredu Offthalmig Cenedlaethol ei lansio gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2015.

Mae AGIC wedi gwneud 22 o argymhellion i fyrddau iechyd a llunwyr polisïau eu hystyried o ganlyniad i’r canfyddiadau.