Un o'r protestwyr ym Mangor neithiwr Llun: Seimon Brooks
Fe ddaeth cannoedd o bobol ar draws Cymru ynghyd neithiwr i brotestio yn erbyn penderfyniad Donald Trump i wahardd teithwyr o wledydd Mwslimiaid a ffoaduriaid rhag teithio i’r Unol Daleithiau.

Cafodd protestiadau heddychlon eu cynnal yng Nghaerdydd, Aberystwyth, Bangor ac Abertawe, gyda rhai’n dal sloganau fel “Codi pontydd, nid waliau”; “Na i Hiliaeth” a “Croeso i bawb”.

Roedd y gwrthdystiadau wedi’u cynnal hefyd i ddangos gwrthwynebiad i ymweliad gwladol Donald Trump â gwledydd Prydain rywbryd eleni, lle mae miliwn o bobol wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu ei ymweliad.

Er hyn, mae Downing Street wedi cadarnhau y bydd ymweliad yr Arlywydd yn mynd rhagddo.


Y brotest yng Nghaerdydd Llun: Golwg360
Diswyddo Twrnai

 

Yn y cyfamser mae’r Arlywydd wedi diswyddo Twrnai Cyffredinol dros dro’r Unol Daleithiau, Sally Yates, wedi iddi hi argymell cyfreithwyr yr adran gyfiawnder i beidio â chefnogi gwaharddiad Donald Trump ar atal ffoaduriaid a theithwyr o wledydd Mwslimiaid.

Mae’r Arlywydd wedi cyhuddo Sally Yates o “fradychu’r Adran Gyfiawnder drwy wrthod gweithredu gorchymyn cyfreithiol wedi’i ddylunio i ddiogelu dinasyddion yr Unol Daleithiau.”

Mae llefarydd ar ran y Tŷ Gwyn wedi dweud fod Dana Boente, Twrnai’r Unol Daleithiau ar gyfer Rhanbarth Dwyreiniol Virginia, wedi cael ei phenodi yn ei lle.