Iolo Williams
Mae’r naturiaethwyr Iolo Williams wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu cymryd rhan yn yr her o gerdded o amgylch Cymru mewn diwrnod i godi arian at Gymdeithas Alzheimer.

 

Mae’r her ‘theWelsh1000walk’ yn cynnwys cerdded ar hyd holl arfordir Cymru, o gwmpas Ynys Môn a Chlawdd Offa sy’n gyfanswm o 1,057 milltir.

 

Fe ymunodd Iolo Williams â rhan o’r daith y llynedd hefyd, ac mae’n galw ar y cyhoedd i ymuno â rhan o’r daith eleni.

“Roedd fy niweddar dad yn byw gyda dementia, felly dw i wedi cael profiad o’r distryw mae’n achosi.

 

“Mae gwaith Cymdeithas Alzheimer yn hanfodol wrth helpu i wella triniaeth i bobol sy’n byw gyda dementia heddiw ac ar gyfer iachâd am yfory,” meddai.

 

Mae 71 rhan i’r daith, yn amrywio o ran hyd a lefel, ac mae’n cael ei gynnal ar Ebrill 22.

 

Ffigurau

  • Mae tua 45,000 o bobol yn byw gyda dementia yng Nghymru, gyda hanner heb dderbyn diagnosis ffurfiol eto.
  • Mae ymchwil gan Brifysgol King’s yn Llundain yn rhagweld y bydd 100,000 o bobol yng Nghymru yn byw gyda dementia erbyn 2055.