Carwyn Jones, Theresa May ac arweinwyr eraill yn trafod Brexit yng Nghaerdydd (Llun: Ben Birchall/PA Wire)
Mae Theresa May wedi cadarnhau nad yw’n bwriadu defnyddio Brexit fel modd i dynnu pwerau’n ôl oddi wrth y llywodraethau datganoledig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu hyn wrth i Brif Weinidog Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban gyfarfod â Theresa May yng Nghaerdydd heddiw i drafod y cynlluniau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Roedd trafodaethau pellach ar fynediad i’r farchnad sengl, a’i bwysigrwydd hanfodol i’r economi,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Doedd y safbwyntiau ddim yr un peth, ond nid ydyn nhw’n amhosib eu goresgyn yn y cyfnod hwn,” meddai wedyn.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth gyfeirio at Donald Trump: “cododd Prif Weinidog Cymru bryderon difrifol ynglŷn â’r ffordd y gwnaeth Llywodraeth y DU ymdrin â gorchymyn mewnfudo diweddar yr Unol Daleithiau, a mynegodd ei farn y byddai ymweliad gwladol yn anodd o dan yr amgylchiadau presennol.”

Yr Alban – ‘ddim yn agos’

Er hyn, fe ddywedodd Gweinidog Brexit yr Alban, Mike Russell, nad oedden nhw wedi cyrraedd “unrhyw le’n agos” at safbwynt ar y cyd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac fe gyhuddodd Theresa May o fethu â chynnwys y gweinyddiaethau datganoledig yn y penderfyniadau.

Ychwanegodd Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, “mae amser yn mynd yn brin i’r Prif Weinidog ddangos ei bod am lynu at yr ymrwymiad wnaeth hi imi ar ôl dechrau’i swydd y byddai’r Alban yn cael eu cynnwys yn llawn mewn trafodaethau i ddatblygu agwedd i’r Deyrnas Unedig sy’n gytûn a  gwrando ar gynigon eraill i’r Alban.”

Fe nododd Theresa May yn glir cyn y cyfarfod ei bod yn gobeithio cynnal trafodaethau cadarnhaol â’r llywodraethau datganoledig.

Fe dynnodd sylw hefyd na fyddent yn cael rôl bendant yn y penderfyniadau dros adael yr Undeb Ewropeaidd gan adleisio dyfarniad y Goruchaf Lys na fyddai angen caniatâd Cymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon cyn tanio Erthygl 50.