Llun: PA
Mae Theresa May yng Nghaerdydd heddiw i gyfarfod Prif Weinidog Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon fel rhan o’r trafodaethau tros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dyma’r tro cyntaf i’r Cydbwyllgor Gweinidogol gael ei gynnal y tu allan i Lundain, ac mae disgwyl i’r arweinwyr drafod camau nesaf y cynlluniau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl dyfarniad y Goruchaf Lys yr wythnos diwethaf, nid oes rhaid cael caniatâd llywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon cyn tanio Erthygl 50 a gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Theresa May wedi ei gwneud yn glir cyn y cyfarfod heddiw na fydd y llywodraethau datganoledig yn cael rôl bendant yn y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd y Prif Weinidog ei bod yn gobeithio y bydd y cyfarfod heddiw yn adeiladol ond fe rybuddiodd “na fyddwn ni’n cytuno ar bopeth.”

Mae Theresa May wedi dweud y bydd hi’n gwrando ac yn ystyried cynlluniau a galwadau’r gweinyddiaethau, gan gynnwys y Papur Gwyn a gyflwynodd Carwyn Jones a Leanne Wood yr wythnos diwethaf yn galw am barhau â’r mynediad at y farchnad sengl.

Ond fe bwysleisiodd bod dyfarniad y Goruchaf Lys ynglŷn â thanio Erthygl 50 wedi ei gwneud yn glir mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fyddai’n gyfrifol am drafod y berthynas gyda Brwsel.

Galw am setliad ar wahân

Mae Carwyn Jones wedi galw am “drafodaethau agored” ynglŷn â dyfodol y Deyrnas Unedig wedi Brexit, a dywedodd y byddai’n annog Theresa May i ddefnyddio Papur Gwyn Llywodraeth Cymru fel man cychwyn ar gyfer y trafodaethau Brexit.

Mae wedi galw ar Theresa May i gadw at addewidion a wnaed yn ystod ymgyrch y refferendwm na fyddai Cymru’n colli arian yn sgil y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe rybuddiodd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon bod yn rhaid i Theresa May ystyried cynlluniau’r llywodraethau datganoledig o ddifrif yn y cyfarfod heddiw.

Mae Nicola Sturgeon am i’r Alban barhau yn y farchnad sengl hyd yn oed oes yw gweddill y Deyrnas Unedig yn gadael. Roedd y bleidlais yn yr Alban o blaid aros yn rhan o’r UE.

Mae arweinydd Sinn Fein, Michelle O’Neill, sy’n mynychu’r cyfarfod, wedi dweud bod y Ceidwadwyr yn ceisio gorfodi Brexit ar Ogledd Iwerddon sy’n groes i ddymuniad y bobl ac mae hi’n galw am statws arbennig i’r gogledd o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae galwadau am setliadau ar wahân ar gyfer y llywodraethau datganoledig ar yr agenda yn y cyfarfod.

Donald Trump

Mae disgwyl hefyd y bydd gwaharddiad Donald Trump ar deithwyr o rai gwledydd lled-fwslemaidd rhag teithio i’r Unol Daleithiau yn gysgod dros y cyfarfod.

Mae Carwyn Jones wedi beirniadu’r gwaharddiad hwnnw mewn datganiad gan ddweud, “os yw’r berthynas arbennig yn golygu unrhyw beth, mae’n rhaid iddi olygu dal y naill a’r llall i gyfrif. Nid yw tawelwch yn osgoi’n nodweddion mewn arweinyddiaeth.”

Dywedodd y bydd yn ceisio ymateb Prif Weinidog Prydain, Theresa May, i hyn yn ystod y cyfarfod.