Leanne Wood (Llun: Plaid Cymru)
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yw’r gwleidydd diweddaraf i feirniadu penderfyniad Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump i atal pobol o saith o wledydd Mwslimaidd rhag teithio i’r wlad.

Mae Donald Trump eisiau alltudio unigolion o Irac, Syria, Iran, Sudan, Libya, Somalia neu’r Yemen, ac mae nifer sylweddol o bobol o’r gwledydd hynny wedi cael eu cadw yn y ddalfa yn yr Unol Daleithiau.

Mae lle i gredu bod yr awdurdodau eisoes wedi gwrthod mynediad i 109 o bobol, a bod 173 o bobol wedi cael eu hatal rhag mynd ar awyren i deithio’n ôl i’r Unol Daleithiau.

Yn ôl Donald Trump, mae’r mesurau’n angenrheidiol er mwyn atal “brawychwyr Islamaidd radical” rhag mynd i’r Unol Daleithiau, ac roedden nhw yn ei faniffesto ar gyfer yr arlywyddiaeth.

Ond mae’n gwadu mai “gwaharddiad yn erbyn Mwslimiaid” ydyw.

‘Geiriau gwag y gwerthoedd Prydeinig’

Mewn datganiad, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood fod rhaid beirniadu Prif Weinidog Prydain, Theresa May am iddi fethu â chadw at ‘werthoedd Prydeinig’ drwy glosio at Arlywydd yr Unol Daleithiau dros yr wythnosau diwethaf.

Mewn datganiad, dywedodd: “Credu mewn goddefgarwch tuag at bobol eraill, cydraddoldeb a derbyn ffydd a chrefyddau pobol eraill – nid fy ngeiriau i yw’r rheiny, ond geiriau Theresa May wrth ddiffinio’r hyn y mae hi’n credu yw gwerthoedd Prydeinig. Ewch ymlaen ddwy flynedd ac mae’r geiriau hynny’n eiriau gwag.”

Dywedodd fod Theresa May wedi dangos “diffyg arweiniad difrifol” a “llwfrdra” drwy beidio â beirniadu Donald Trump a’i “ragfarn hiliol”.

“Mae’r polisi Islamoffobaidd amlwg hwn mewn perygl o danio casineb y rhai sydd eisoes ar gyrion ein cymunedau, gan arwain at ragor o ddieithrio a thanseilio diogelwch.

“Mae’n briodol fod gweithredoedd Trump wedi ennyn dicter o amgylch y byd a dylem ni i gyd eu condemnio’n llwyr.”