Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Adam Price wedi galw ar Lywodraeth Prydain i fuddsoddi £500 miliwn yn y diwydiant dur.

Daw ei alwad yn y Sunday Times wrth i weithwyr ddechrau ystyried ddydd Llun a fyddan nhw’n derbyn cynllun pensiwn sydd wedi cael ei gynnig iddyn nhw.

Yn ôl Adam Price, mae gan Lywodraeth Prydain “ddatodiad Olympaidd” â’r diwydiant dur, ac mae’n beirniadu’r ffaith fod un cyfeiriad yn unig at y diwydiant ym mhapur gwyrdd diweddar y llywodraeth sy’n amlinellu eu strategaeth ddiwydiannol.

Fe allai cynnig o £500 miliwn fod yn ddigon, yn ôl Adam Price, “i ddarbwyllo gweithwyr dur nad oedd eu haberth, yn y gorffennol ac yn y presennol, yn ofer yn ‘ffwrneisi tanllyd uffern’.”

Dewis rhwng swydd neu bensiwn

Mae Adam Price wedi disgrifio’r cynnig sydd wedi’i wneud fel “dewis rhwng eu swydd neu eu pensiwn”.

“Cawsom ein rhybuddio pe bai’r gweithwyr yn pleidleisio na fod perygl go iawn y bydd perchnogion Indiaidd Tata yn cau eu ffatrïoedd Prydeinig – bygythiad y mae’r undebau’n ei gymryd o ddifri fel eu bod yn cymeradwyo newid i bensiynau y gwnaeth eu haelodau ei wrthod yn sylweddol ddim ond 18 mis yn ôl.

“O ystyried y posibilrwydd o bleidlais ’na’, mae rhodres y llywodraeth o ddatodiad Olympaidd a throsglwyddo cyfrifoldeb tros oroesiad sylfaen ein heconomi gweithgynhyrchu yn ymddangos yn hynod ryfedd.”

Mae’r hyn y mae Adam Price yn galw amdano’n bum gwaith mwy na chynnig Llywodraeth Cymru, ac mae e wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o “wneud dim byd”.

“Tra bod cyhoeddiad y llywodraeth am gytundebau sector ar gyfer cerbydau allyriadau isel iawn a digideiddio diwydiant i’w groesawu, efallai bod sicrhau cytundeb dur ar hyn o bryd yn fwy o flaenoriaeth.”