Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i gerddwr gael ei ladd wrth gael ei daro i lawr gan fws yn Abertawe ddoe.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am 5.25 y prynhawn ar gyffordd Woodfield Street â’r A48 yn ardal Croes Treforys o’r ddinas.

Cafodd y cerddwr 46 oed ei gadarnhau’n fawr yn y fan a’r lle. Ni chafodd gyrrwr na theithwyr y bws gwasanaethau eu hanafu yn y digwyddiad.

Mae Heddlu De Cymru’n apelio ar i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a oedd ar y bws ond wedi gadael cyn i’r heddlu gyrraedd neu ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad gysylltu â nhw ar 101 neu 0800 555111 gan nodi cyfeirnod 1700034081.