Mae ymgyrch ar droed i wneud Dolgellau y dref fwyaf rhamantus yng Nghymru am 21 diwrnod rhwng Diwrnod Santes Dwynwen a Diwrnod San Ffolant.

Eisoes mae siopau’r dref wedi ymuno â’r fenter, gyda bron i 40 yn addurno eu ffenestri a digwyddiadau fel noson wib-garu [speed-dating] a chystadleuaeth gwneud hyni-byns, un o hoff ddanteithion y dref.

“Dydy Dolgellau erioed wedi cael speed-dating o’r blaen, rydym ni’n torri tir newydd fan hyn,” meddai Llinos Rowlands o siop win Dylanwad, lle fydd y noson yn cael ei chynnal ar 17 Chwefror.

“Rydan ni angen dynion yn enwedig i hwn – dynion golygus, intelligent i ddod i siarad yn neis efo merched tra bod nhw’n trafod gwin.

“Wrth gwrs, mae merched Dolgellau mor ddeniadol, mae’n werth dod lawr yma!”

Ac mae yna gystadleuaeth yn rhan o’r hwyl hefyd.

“Mae yna bron iawn i 40 [o siopau’r dref] wedi cael eu haddurno’n hyfryd, mae yna wobr i’r ffenestr orau yn mynd i gael ei gyhoeddi dydd Sadwrn yma,” meddai Llinos Rowlands.

“Wedyn mae yna edrych am y galon hyd yn un o siopau Dolgellau os ydy pobol yn ffeindio hynna, maen nhw’n cael eu henw mewn raffl i gael hampyr cynhwysion Dolgellau.”

Dechrau’r syniad

Yn ôl Llinos Rowlands, dechreuodd y fenter i geisio hybu’r dref i dwristiaid ar ôl gweld ar wefan TripAdvisor bod Dolgellau yn un o’r 10 tref ‘mwyaf rhamantus’ yng ngwledydd Prydain.

Mae erbyn hyn mae’r fenter wedi troi yn ymgyrch codi arian hefyd, gyda £400 eisoes wedi cael ei godi ers cychwyn arni ddoe. Bydd yr arian yn mynd i goffrau elusen Calonnau Cymru, er mwyn cael digon o arian am ddiffibrilwyr i’r dref.

“Mae’r ysgol [Ysgol y Gader] wedi codi £350 ddoe, fyswn i’n hoffi rhoi un [diffibriliwr] yn yr ysgol ac maen nhw’n costio £1,500 yr un,” meddai Llinos Rowlands.

“Bydda fo’n neis cael dau i’r ysgol a dau arall i’r dref yn y diwedd – rydan ni wedi dechrau mynd yn reit uchelgeisiol!”

 “Codi’r dref ar amser tywyll”

Yn ôl Llinos Rowlands, mae’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal wedi dod â’r gymuned i gyd at ei gilydd.

“Mae o wedi codi’r dref ar amser reit dywyll o’r flwyddyn – mae’n boring yr amser yma o’r flwyddyn, felly mae pobol wir yn gwerthfawrogi ac yn mwynhau.

“Mae o wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r dref a dyna ydy’r pwynt wrth gwrs, rydan ni isio trio dod â sylw i beth sydd yn siopau’r dref.”

Dywedodd y byddai’r fenter yn troi yn rhywbeth blynyddol yn “bendant”, gyda chynlluniau am gynnal ffair briodas yn y dref y flwyddyn nesaf.