Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cael ei lambastio yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon am beidio â rhoi grant o £2,358 i oriel yn y Bala.

Cymdeithas Dreftadaeth y Bala a Phenllyn sy’n gyfrifol am yr oriel, ac mae Cadeirydd y Gymdeithas yn cyhuddo’r Cyngor Celfyddydau o anwybyddu ardaloedd gwledig.

Ond mae’r Cyngor yn dweud eu bod yn lledaenu arian yn deg ar draws holl ardaloedd Cymru.

Yn ôl Dewi T Davies, Cadeirydd y Gymdeithas, mae’r Cyngor Celfyddydau yn gwario dros hanner ei gyllideb – dros £30  miliwn – yng Nghaerdydd. Ac mae o’n flin na chafodd oriel Cantref grant i helpu gyda’r costau o gynnal pedair arddangosfa gelf eleni.

“Mae arna’ i ofn mai enghraifft arall o amddifadu cefn gwlad o wasanaethau yw hyn”, meddai, “ac mai ardaloedd fel hyn sydd yn dioddef gyntaf pan ddaw toriadau; mae o leiaf hanner yr arian sydd gan y Cyngor yn cael ei wario yng Nghaerdydd”.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae gwaith artistiaid megis Osi Rhys Osmond, John Meirion Morris a Catrin Williams wedi ei ddangos yn oriel Cantref.

Mae Cymdeithas Dreftadaeth y Bala a Phenllyn yn dweud nad oes yr un oriel arall o fewn 30 milltir i’r Bala ac yn ôl yr Ysgrifennydd, Hywel Lloyd Davies: “Ystyriwn fod dyletswydd arbennig gennym i hyrwyddo’r gwerthfawrogiad o gelf ymysg plant a phobl ifanc yn ogystal â’u gwneud yn ymwybodol o’u hetifeddiaeth yn ei holl agweddau. I’r perwyl hwn y mae’n fwriad gennym ddal ati i weithio’n glos ag ysgolion yr ardal a datblygu’r berthynas honno ymhellach.”

Hyd at y llynedd, roedd Cymdeithas Dreftadaeth y Bala a Phenllyn yn derbyn nawdd o rhwng £2,000 i £4,000 “am flynyddoedd” i’w gwaithgan y Cyngor Celfyddydau.

Ond am nad oedd ‘hyrwyddo’r celfyddydau gweledol’ yn nod yng Nghyfansoddiad y Gymdeithas, fe gafodd y grant ei ddileu yn y flwyddyn ariannol 2015/16.

Ymateb y Cyngor Celfyddydau

Roedd y Cyngor Celfyddydau am nodi bod Cymdeithas Dreftadaeth y Bala a Phenllyn wedi ceisio am arian Loteri, a bod yr arian hwnnw wedi ei rannu yn deg drwy Gymru i hybu’r celfyddydau.

Yn ogystal â chael dros £30 miliwn gan Lywodraeth Cymru, mae’r Cyngor Celfyddydau yn cael £16 miliwn gan y Loteri Genedlaethol.

Rhwng 2011-16 fe gafodd dros £5miliwn o arian Loteri ei wario ar y celfyddydau yng Ngwynedd, drwy law’r Cyngor Celfyddydau.

Roedd y ffigwr cyfatebol ar gyfer Caerdydd dros £15 miliwn, tua £7 miliwn ym Môn a thros £16 miliwn yng Nghaerfyrddin.

Rhagor o’r hanes yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.