Mi fydd becws Avana yn cau heddiw yng Nghasnewydd gyda tua 150 o bobl yn colli eu swyddi.
Yn ôl y perchnogion, Food Utopia, bu’n rhaid iddyn nhw ddod a’r pobi i ben gan fod y safle yn gwneud colledion ariannol a ddim yn gynaliadwy.
Prynodd Food Utopia y becws gan riant gwmni Avana, 2 Sisters yn 2014.
Roedd y ffatri am gael ei chau yn gynharach yn 2014 pan gyhoeddodd 2 Sisters ei fod wedi colli cytundeb gwerth miliynau gyda Marks and Spencers.
Erbyn i Food Utopia gymryd drosodd ym mis Awst y flwyddyn honno, roedd y gweithlu wedi gostwng o 640 i 550. Bythefnos yn ddiweddarach fe gollodd 390 o’r staff eu swyddi.