Carwyn Jones
Ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost heddiw, bydd Prif Weinidog Cymru yn arwain gwasanaeth cenedlaethol i gofio’r bobol fu farw neu ddioddefodd dan law’r Natsïaid.

Yn ogystal â Carwyn Jones, bydd Eva Clarke, a oroesodd yr Holocost, yn annerch y gwasanaeth yn Neuadd y Ddinas Caerdydd.

Cafodd ei geni yng ngwersyll Mauthausen yn 1945 a hi a’i mam oedd yr unig rai o’r teulu o 17 wnaeth oroesi.

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn cael ei gynnal ar 27 Ionawr bob blwyddyn i nodi dyddiau cau gwersyll-garchar Auschwitz-Birkenau.

“Dyletswydd i gofio”

Dywedodd y Prif Weinidog ei bod yn “fraint o’r mwyaf sefyll ochr yn ochr â phobol ledled y byd wrth anrhydeddu’r bobl a wynebodd yr erchyllterau gwaethaf posibl.”

“Mae dyletswydd arnom i gofio’r bobl a fu farw fel ein bod yn cofio pa mor ffodus rydym ni i gael byw mewn cymdeithas oddefgar a gwâr ac er mwyn sicrhau nad yw erchyllterau o’r fath byth yn digwydd eto.”

Thema’r diwrnod eleni yw “sut y gall bywyd fynd yn ei flaen”, gan dynnu sylw pobol at yr hyn sy’n digwydd wedi hil-laddiad ac ystyried ein cyfrifoldebau o gofio troseddau o’r fath.

Bydd Arweinydd Cyngor Caerdydd, Phil Bale, yn cynnal y gwasanaeth gyda Carwyn Jones a’r Parchedig Ganon, Stewart Lisk, Caplan Anrhydeddus i Gyngor Caerdydd.

Bydd pobol o gymunedau Iddewig yn y gwasanaeth, aelodau o gymunedau ffydd eraill a sefydliadau fel Stonewall Cymru a Race Equality First.