Bydd Aelodau’r Cynulliad yn cwrdd â swyddogion cwmni dur Tata heddiw yn dilyn penderfyniad undebau i annog gweithwyr i dderbyn dêl pensiwn y cwmni.

Mi fydd Aelodau’r Cynulliad David Rees a Lee Waters, sydd yn cynrychioli etholaethau lle mae ffatrïoedd Tata, yn cwrdd â’r swyddogion heddiw ym Mhort Talbot.

Yn ôl y cwmni mae newidiadau i bensiynau gweithwyr yn hanfodol ar gyfer buddsoddiad pellach, ac er bod gan yr undebau amheuon am y ddêl maen nhw yn derbyn ei fod yn hanfodol er mwyn diogelu dyfodol y busnes.

Ddydd Llun, bydd 6,000 o weithwyr Tata yn pleidleisio I dderbyn neu wrthod y ddêl bensiwn.

Dêl bensiwn

Roedd y ddêl wreiddiol yn gofyn bod y cwmni yn cyfrannu tuag at 3% o’r pot pensiwn a bod gweithwyr hefyd yn cyfrannu 3%.

Yn dilyn ymgynghoriad mis Rhagfyr cafodd y ddêl ei newid fel bod yn rhaid i Tata gyfrannu 10% a bod y gweithwyr yn cyfrannu 6%.