Mae dyn 26 oed wedi ymddangos gerbron y llys wedi’i gyhuddo o fod â llawlyfrau gwneud bomiau a chyfarwyddiadau ar sut i ymosod ar bobol gyda chyllell yn ei feddiant.

Cafodd Lee Edward Griffiths o Abertawe ei gyhuddo o fod â deunydd brawychol, gan gynnwys cylchgrawn y grŵp eithafol Isis, Rumyiah, a’r Anarchy Cookbook.

Wynebodd pum achos yn ei erbyn yn Llys Ynadon Westminster yn ymwneud â chasglu gwybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol i rywun sy’n cyflawni neu’n paratoi ar gyfer gweithredoedd brawychol.

Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa am y tro, cyn bod disgwyl iddo ymddangos yn Llys yr Old Bailey ar Chwefror 6.