Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff dyn ym Marina Abertawe wrth iddyn nhw chwilio am ddyn 18 oed.

Does neb wedi gweld Marcin Porczyk ers tua 3 o’r gloch y bore ddydd Sul.

Aeth ar goll ar ôl bod yn Wind Street yn gynharach yn y noson.

Dyw’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae ei deulu wedi cael gwybod am y darganfyddiad.