Mae dyn 78 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ger Tonypandy nos Fawrth.

Fe ddigwyddodd y ddamwain toc wedi 8yh ar ffordd osgoi yr A4058 yn y Porth.

Mae dwy wraig a oedd yn teithio yn y car arall wedi’u cludo i’r ysbyty, lle maen nhw’n derbyn triniaeth.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion, wrth i’r ymchwiliad i’r digwyddiad barhau.