David Owen, sydd wedi marw yn 85 oed
Bu farw cyn-Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, David Owen, yn ei gartref yn Llandudno. Roedd yn 85 mlwydd oed, ac wedi bod yn sâl am gyfnod hir.

Mab i sarjant o Fetws-y-coed oedd David Owen, a ddaeth yn heddwas ei hun yn Llundain, yn Swydd Lincoln, Glannau Merswy a Dorset, cyn dringo i fod yn Brif Gwnstabl ar Heddlu’r Gogledd rhwng 1982 ac 1994.

“Fe gafodd yrfa amrywiol iawn,” meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl presennol, Gareth Pritchard.

“Roedd David Owen yn uchel ei barch o fewn y llu, yn genedlaethol ac yn y gymuned yng ngogledd Cymru.

“Fe fydd David yn cael ei gofio am ei arweinyddiaeth gref ac effeithlon, a dw i’n gwybod o brofiad personol ei fod wedi gadael argraff ddofn ar bawb a fu’n cyd-wasanaethu ag o.”