Llinos Wynne, Comisiynydd Ffeithiol S4C, (Llun: S4C)
Mae S4C wedi penodi Comisiynydd Ffeithiol newydd i’r sianel bron i bedwar mis ers i’r cyn-gomisiynydd gael ei benodi i rôl newydd.

Bu’n rhaid i’r sianel ail-hysbysebu’r swydd yn ystod y cyfnod, ond maen nhw bellach wedi cyhoeddi mai Llinos Wynne fydd yn olynu Llion Iwan wedi iddo yntau gael ei benodi’n Bennaeth Dosbarthu Cynnwys y sianel fis Medi’r llynedd.

Mae’n golygu mai pum merch sydd bellach yn comisiynu rhaglenni S4C, gan y bydd Llinos Wynne yn gweithio ochr yn ochr ag Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant; Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama; Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc;  a Sue Butler Comisiynydd Chwaraeon.

Bydd Llinos Wynne yn rhannu’i hamser rhwng swyddfa S4C yng Nghaernarfon a Chaerdydd.

Dros y chwe blynedd diwethaf, mae wedi gweithio’n llawrydd yn y byd teledu, a chyn hynny wedi gweithio am fwy nag ugain mlynedd i’r BBC.

Enillodd wobr BAFTA Cymru am y rhaglen ddogfen Josie’s Journey, ac mae wedi cynhyrchu’r rhaglenni ffeithiol Mamwlad, Jude Cissé a Delme Thomas: Brenin y Strade.

O ran rhaglenni Saesneg, mae hi wedi cynhyrchu Welsh Towns, A Garden in Snowdonia a rhaglenni’r gyfres Coming Home.

“Dw i’n ymwybodol y bydd hi’n her, ond mae gan y sianel botensial enfawr, a fy nod i fel Comisiynydd Ffeithiol fydd cynnwys rhaglenni perthnasol ac amrywiol yn amserlen S4C,” meddai Llinos Wynne.

“Mae’n bwysig creu rhaglenni mae gwylwyr yn mynd i’w mwynhau ar S4C, ac sy’n destun trafodaeth.

“Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda chwmnïau cynhyrchu i greu rhaglenni a chyfresi dyfeisgar, blaengar a modern ar wahanol blatfformau yn y Gymraeg.”