Only Boys Aloud Llun: ITV
Bydd cyfres o gyngherddau arbennig yn cael eu cynnal gan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni wrth i’r ŵyl ddathlu ei phen-blwydd yn 70 oed.

Bydd y dathliadau yn cael eu lansio gyda chyngerdd agoriadol ar 3 Gorffennaf, ac fe fydd yr ŵyl yn tynnu at ei therfyn gyda Llanfest 2017 ar 9 Gorffennaf.

Mae disgwyl i amrywiaeth eang o gerddorion a pherfformwyr gymryd rhan gan gynnwys Syr Bryn Terfel, Only Boys Aloud, Manic Street Preachers a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.

Mae tocynnau ar gael i berchnogion tocynnau tymor ac aelodau Ffrindiau’r Eisteddfod o heddiw ymlaen, a bydd y tocynnau ar gael i’w prynu gan aelodau’r cyhoedd o ddydd Iau.

“Heddwch a harmoni”

“Bob blwyddyn ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, mae cerddorion ac artistiaid wedi ymgasglu o bob cwr o’r byd i gystadlu a diddanu,” meddai Llywydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen Terry Waite.

“Yr hyn sy’n gwneud yr Eisteddfod hon yn unigryw yw’r bwriad i hybu heddwch a harmoni gan ddefnyddio cerddoriaeth fel y cyfrwng i wneud hynny.”