Llun: PA
Mae gyrwyr sy’n gyfrifol am y troseddau goryrru mwyaf difrifol yn wynebu dirwyon llawer uwch yn sgil canllawiau dedfrydu newydd ar gyfer ynadon yng Nghymru a Lloegr.

Fe allai modurwyr sy’n gyrru yn llawer uwch na’r cyfyngiad cyflymder wynebu dirwy fydd o leiaf 150% o’u cyflog wythnosol,  50% yn fwy nag o’r blaen.

Mae’n golygu, er enghraifft, bod person sy’n gyrru 101 milltir yr awr neu’n gyflymach mewn ardaloedd 70 milltir yr awr yn wynebu cosbau llawer mwy llym.

Bwriad y cynnydd yn ôl y Cyngor Dedfrydu yw sicrhau bod y gosb yn cynyddu “yn unol â difrifoldeb y troseddau.”

Canllawiau newydd

Mae goryrru yn un o nifer o droseddau sy’n cael eu cynnwys mewn canllawiau newydd ar gyfer llysoedd ynadon sy’n cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

Bydd ynadon hefyd yn cael cyngor newydd ynglŷn â sut i ddelio a phobol sydd yn cam-drin anifeiliaid.

Bydd camau hefyd yn cael eu cyflwyno i lacio cosbau ariannol i bobl sy’n osgoi talu eu trwydded deledu.