Mae disgwyl i bwyllgor o’r Cynulliad drafod adroddiad drafft heddiw am y modd y gwnaeth cwmni gweithgynhyrchu o Abertawe dderbyn grant o tua £3.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru cyn mynd i’r wal yn ddiweddarach.

Mae disgwyl i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus glywed a wnaeth y cwmni Kancoat o Waunarlwydd dderbyn arian gan Lywodraeth Cymru er gwaethaf honiadau iddynt fethu sawl gofyniad.

Mae llythyr wedi’i gyfeirio at Nick Ramsay, AC y Ceidwadwyr Cymreig, gan Gyfarwyddwr Sectorau a Busnes Llywodraeth Cymru, Mick McGuire, yn gwadu y bu methiannau.

Yn ei lythyr, dywedodd Mick McGuire, bod y grant wedi’i dalu “ar yr amod y byddai meini prawf recriwtio penodol yn cael eu bodloni.”

“Roedd y cynllun busnes wedi’i rannu’n gyfartal rhwng araenu’n fanwl gywir ddeunydd a ddarparwyd gan y cwsmer ac araenu dur a brynwyd,” meddai.

O ran cyflenwi cwsmeriaid mewn pryd, dywedodd “roedd amseroedd cynhyrchu Kancoat yn fyrrach o lawer na safon y diwydiant o ganlyniad i’w ddull mwy hyblyg na’i gystadleuwyr o gynhyrchu ar raddfa lai, ac am fod y cynnyrch yn gymysgedd o ddeunydd a ddarperir gan y cwsmer a deunydd a brynwyd.”

Cefndir

Yn ôl adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Gorffennaf 2016, mae’r cwmni mewn dyled o bron i £2.6miliwn i Lywodraeth Cymru ar ôl cael cefnogaeth ariannol o £3.4 miliwn.

Fe aeth cwmni Kancoat i’r wal ym mis Medi 2014, ar ôl creu 12 o swyddi yn hytrach na’r 33 oedd wedi’u rhagweld.