Mae Heddlu De Cymru wedi apelio am wybodaeth am ddyn sydd wedi bod ar goll ers bore dydd Sul.

Cafodd Marcin Porczyk ,18, ei weld diwethaf am 3yb bore dydd Sul, 22 Ionawr yn ardal Stryd y Gwynt yn Abertawe, ac mae’r heddlu yn pryderu y gall fod wedi’i anafu.

Mae Marcin Porczyk yn ddyn gwyn, 5’ 9’ o daldra, ac roedd yn gwisgo jîns du gyda chrys gwyrdd â thriongl ar ei flaen pan gafodd ei weld y tro diwethaf.

Mae Heddlu De Cymru wedi galw am gymorth gan y cyhoedd i geisio dod o hyd iddo.

Dylai unrhyw un sydd â  gwybodaeth ffonio 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1700027751.