Stuart Bailey, Llun: Heddlu De Cymru/PA
Mae dynes wnaeth gynllwynio i ganiatáu i bedoffeil dreisio ei merch, 7 oed, wedi cael ei charcharu am naw mlynedd.

Roedd y ddynes, na ellir cyhoeddi ei henw am resymau cyfreithiol, wedi cynllwynio’r ymosodiad ar y ferch gyda Stuart Bailey mewn cyfres o negeseuon testun, clywodd Llys y Goron Caerdydd.

Roedd hi hefyd wedi anfon llun anweddus o’r ferch i Stuart Bailey, 54, ac wedi prynu tabledi er mwyn sicrhau bod y ferch yn mynd i gysgu.

Clywodd y llys bod y ddau wedi anfon dwsinau o negeseuon at ei gilydd a bod y troseddau wedi dod i’r amlwg ar ôl i bartner y ddynes ddod o hyd i’r negeseuon ar ei ffon a mynd at yr heddlu.

Cafodd y ddynes ei harestio a daeth i’r amlwg bod Stuart Bailey wedi cysylltu â nifer o ferched eraill drwy’r wefan Plenty of Fish. Cafodd ei garcharu am gyfanswm o 13 mlynedd.

Cafwyd Stuart Bailey  a’r ddynes yn euog o gynllwynio i dreisio merch o dan 13 oed ar ol achos a gafodd ei gynnal ym mis Rhagfyr.

Roedd Stuart Bailey, o Rydyfelin, Pontypridd, hefyd wedi’i gael yn euog o annog dosbarthu lluniau anweddus o blentyn ac annog ymosodiad rhywiol ar blentyn gan ddynes arall.

Mewn gwrandawiad cynharach roedd y ddynes wedi cyfaddef dosbarthu pump o luniau anweddus o blentyn ac roedd Stuart Bailey wedi cyfaddef bod a’r lluniau yn ei feddiant.