Trudy Jones o'r Coed Duon Llun: Heddlu De Cymru
Fe fydd cwest i farwolaeth 30 o dwristiaid o wledydd Prydain, a gafodd eu lladd mewn ymosodiad brawychol yn Tiwnisia, yn clywed tystiolaeth yn ymwneud a thri o’r dioddefwyr heddiw.

Mae disgwyl i dystiolaeth am farwolaeth Trudy Jones, 51, o’r Coed Duon yng Ngwent gael ei chlywed gyntaf. Roedd y fam i bedwar o blant ar wyliau gyda ffrindiau pan gafodd ei saethu’n farw.

Roedd dyn arfog, Seifeddine Rezgui Yacoubi, wedi lladd 38 o dwristiaid yng Ngwesty Riu Imperial Marhaba yn Sousse ar 26 Mehefin 2015.

Mae disgwyl i’r cwest yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol yn Llundain glywed tystiolaeth mewn perthynas â phob un o’r 30 o dwrisitiaid o wledydd Prydain a gafodd eu lladd yn y gyflafan.

Heddiw, mae disgwyl i’r cwest hefyd glywed tystiolaeth am farwolaeth John Stocker, 74, a’i wraig Janet, 63, o Morden, yn Surrey.

Fe ddechreuodd y cwest ar 16 Ionawr ac mae disgwyl iddo barhau am saith wythnos.