Llun: PA
Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams wedi cyhoeddi cronfa newydd i leihau maint dosbarthiadau babanod.

Yn ôl Kirsty Williams fe fydd y gronfa, gwerth £36 miliwn, yn cael ei defnyddio i dargedu dosbarthiadau sy’n rhy fawr mewn ardaloedd difreintiedig dros y pedair blynedd nesaf.

Mae 7.6% o ddisgyblion sy’n fabanod, mewn dosbarthiadau o fwy na 30 disgybl yn ôl y ffigurau diweddaraf ar gyfer Cymru.

Cyrhaeddiad plant

“Mae yna gysylltiad cadarnhaol rhwng dosbarthiadau llai o faint a chyrhaeddiad plant. Mae hyn yn arbennig o wir o ran plant o gefndiroedd tlotach,” meddai Kirsty Williams.

“Mae hyn yn cael mwy fyth o effaith ar blant iau, a dyna pam rydyn ni’n targedu’r buddsoddiad hwn at ddosbarthiadau babanod.”

‘Ni fydd yn datrys yr argyfwng’

Ond mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud na fydd hyn yn datrys yr “argyfwng” sy’n wynebu ysgolion Cymru.

Dywedodd Darren Millar AC bod “ymgynghorydd Llywodraeth Cymru wedi siarad yn gyhoeddus yn erbyn gweithredu’r cynllun nôl ym mis Mehefin.”

Ychwanegodd: “Mae ’na dystiolaeth gynyddol bod yr argyfwng recriwtio athrawon yng Nghymru yn gwaethygu ac felly nid yw’n glir sut fydd y polisi yma yn gweithio; mae dosbarthiadau llai yn golygu mwy o ddosbarthiadau, sydd yn ei dro yn golygu rhagor o athrawon – ac mae ein gwlad yn sobor o brin ohonyn nhw.”

‘Monitro’r arian yn ofalus’

Mae undeb athrawon yr NUT wedi croesawu’r cyhoeddiad gan ddweud ei fod yn gam bositif ymlaen ond mae wedi dweud y bydd yn rhaid monitro’n ofalus sut mae’r arian yn cael ei ddefnyddio.

Dywedodd Ysgrifennydd yr NUT David Evans nad oedd am weld awdurdodau  lleol yn defnyddio’r arian i “lenwi tyllai yn eu cyllidebau” a bod yn rhaid i’r arian gyrraedd y “rheng flaen” er mwyn mynd i’r afael a mater “sydd wedi bod ar frig agenda athrawon.”

‘Cam bach yn y cyfeiriad iawn’

Mae UCAC hefyd wedi croesawu’r cyhoeddiad ond dywedodd Ywain Myfyr, Swyddog Polisi efo’r undeb: “Tra’n croesawu’r datganiad mae’n bwysig ei roi yn ei gyd-destun, swm o arian dros 5 mlynedd sydd gennym yma, ac mewn gwirionedd dydi’r swm ddim yn enfawr wrth ystyried hynny, wrth reswm mae’n gam bach yn y cyfeiriad iawn.

“Y gobaith yw y bydd yr arian yma’n mynd gam bychan tuag at leihau maint dosbarthiadau a thrwy hynny helpu i leihau’r llwyth gwaith anferthol sydd ar ein aelodau ac i godi cyrhaeddiad, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig,” ychwanegodd.

“Roedd dyfodiad y Cyfnod Sylfaen i Gymru yn rhywbeth chwyldroadol ar y pryd, ond ni chafodd ei ariannu’n ddigonol o’r cychwyn.  Mae angen sicrhau nad oes unrhyw un disgybl yng Nghymru mewn dosbarth o maint anghyfreithlon ac mae’n bwysig iawn rhannu’r arian yn ofalus er mwyn sicrhau tegwch. “

“Byddai’n braf nawr gweld Llywodraeth Cymru yn mynd y cam ychwanegol i wneud dosbarthiadau tan 25 yn statudol i bob oedran ac yn cynllunio i leihau maint dosbarthiadau yn gyffredinol er lles disgyblion a gweithlu addysg Cymru. Credwn y byddai hyn yn cyd-fynd efo egwyddorion datganiad heddiw.”