Llun: PA
Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn lansio cynllun Brexit Cymru yn Llundain ddydd Llun.

Bydd y Papur Gwyn yn amlinellu’r hyn y mae Cymru ei eisiau o ran y negodiadau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd hefyd yn cynnwys sylfaen ar gyfer safbwynt negodi “cynhwysfawr a realistig” i’r Deyrnas Unedig gyfan.

Ond nid “rhestr siopa” mo gofynion Cymru, yn ôl Carwyn Jones a Leanne Wood.

Roedd y ddau wedi cydweithio ar lythyr a gafodd ei gyhoeddi ym mhapur newydd y Sunday Times ddoe “er mwyn sicrhau’r cytundeb gorau i Gymru”.

Yn ôl y ddau arweinydd, mae eu cynlluniau ar gyfer Brexit yn “fan cychwyn synhwyrol” ar gyfer y trafodaethau sydd i ddod.

‘Parhau yn y farchnad sengl’

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar bwysigrwydd sicrhau bod Cymru’n parhau i gael mynediad i’r farchnad sengl, rhywbeth y mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi’i wrthod hyd yma.

Maen nhw’n dadlau bod y farchnad sengl “mor bwysig i lewyrch Cymru yn y dyfodol”, gan ddadlau nad oedd pobol Cymru wedi pleidleisio i “danseilio miloedd o swyddi”.

Maen nhw wedi cyhuddo Prif Weinidog Prydain o “anwybyddu llwyddiant Cymru ar y llwyfan byd-eang”.

“Rhaid i ni adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, nid dechrau o’r dechrau.”

Mewnfudwyr

Mae’r ddau yn dweud bod mynd i’r afael â mater mewnfudwyr yn “bwysig”, gan alw am “system sy’n deg, system y gall pobol ei deall yn glir ac yn hanfodol, system nad yw’n niweidio’n heconomi na’n gwasanaethau cyhoeddus”.