Y Glyderau (Llun: George Todd/CCA2.0)
Mae dyn wedi marw ar ôl syrthio i lawr Y Grib Bigog yn Eryri.
Fe gwympodd am oddeutu 3 o’r gloch brynhawn dydd Sadwrn.
Cafodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw, ac fe gafodd y dyn ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd, lle bu farw’n ddiwedarach.
Ar eu tudalen Facebook, dywedodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen fod y dyn wedi syrthio “cryn bellter”, ac nad oedd yr unigolyn oedd wedi cysylltu â nhw yn gallu ei gyrraedd.