Mae ‘.cymru’ a ‘.wales’ ymhlith y 10 enw parth daearyddol mwyaf poblogaidd ar gyfer busnesau ar-lein yn Ewrop, yn ôl arolwg gan gwmni Nominet.

Ond mae’r arolwg o 500 o berchnogion hefyd yn dangos nad oes gan 34% o fusnesau bychain ym maes adeiladu wefan ar hyn o bryd, a’u bod nhw felly mewn perygl o golli allan ar hyd at £40,950 mewn refeniw bob blwyddyn o’u cymharu â busnesau sydd eisoes ar y we.

Ym maes twristiaeth, 19% o fusnesau bach a chanolig Cymru sydd heb wefan, ac fe allen nhw golli allan ar 16 ymholiad busnes yn fwy na’r rheiny sydd ar y we.

35% o fusnesau manwerthu bach a chanolig Cymru sydd heb wefan, ac mae amcangyfrif y gallen nhw golli allan ar 18 o ymholiadau busnes y flwyddyn yn fwy na’r rheiny sydd ar-lein.

21% o fusnesau ariannol bach a chanolig Cymru sydd heb wefan, sy’n cyfateb i golli 16 o ymholiadau busnes y flwyddyn yn fwy na’r rheiny sydd â gwefan, neu £25,150 yn fwy.

33% o fusnesau bwyd ac arlwyo bach a chanolig sydd heb wefan, ac fe allen nhw fod yn colli allan ar 11 o ymholiadau busnes y flwyddyn yn fwy na’r rhai sydd ar y we.

Nom Nom

Mae’r cwmni siocled ‘Nom Nom’ yn Llanboidy, Sir Gaerfyrddin, a gafodd ei sefydlu gan Liam Burgess yn 2011, eisoes wedi cael parth .cymru ac mae hynny’n helpu’r cwmni i farchnata’i gynnyrch ledled y byd.

Dywedodd Liam Burgess mewn datganiad: “Mae buddsoddi mewn enw parth Cymru ddwy flynedd yn ôl wedi bod yn gyfle gwych i gyfathrebu mai o Gymru rydym ni’n dod, a’n bod ni’n falch o hynny.

“Ers i ni fynd ar-lein fel hyn, mae ein busnes wedi mynd o nerth i nerth, a byddwn i’n bendant yn argymell fod unrhyw un sy’n cynhyrchu rhywbeth yng Nghymru’n dewis cael enw parth .cymru neu .wales.”

Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Fe gafodd gwefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru gryn sylw’r llynedd wrth i’r tîm cenedlaethol gystadlu ym Mhencampwriaethau Ewrop – neu Ewro 2016 – yn Ffrainc.

Llynedd hefyd y gwnaeth y Gymdeithas droi at yr enw parth .cymru ac fel yr eglura Pennaeth Materion Cyhoeddus y Gymdeithas, Ian Gwyn Hughes: “Fe wnaethom ni ail-lansio ein gwefan gan ddefnyddio .cymru i gyd-fynd â Phencampwriaethau Ewro 2016.

“Ac wrth i ni symud yn ein blaenau at Gwpan y Byd, gall pobl weld ein bod ni’n fwy na dim ond rhan fach o Loegr.

“Mae gennym ni ein hunaniaeth ein hunain. Rydw i’n meddwl fod yr enw parth .cymru yn ymestyn apêl Cymru a ‘Chymreigrwydd’ gan ddangos ein bod ni’n wlad fodern, fywiog. Ac fel Cymdeithas, fe fyddem ni’n ei argymell i bawb.”

‘Dangos Cymreigrwydd i’r byd’

Yn ôl Prif Weithredwr Nominet, Russell Haworth, mae fwyfwy o fusnesau erbyn hyn yn defnyddio gwefannau fel y cyswllt cyntaf i’r cyhoedd, ac mae meddu ar enw parth .cymru yn gallu bod yn ffordd o ddangos Cymreigrwydd busnesau i’r byd.

“Mae yna lawer o fanteision yn dod yn sgil bod ar-lein, megis cynnydd mewn ymwybyddiaeth brand a sicrhau busnes newydd.

“Mae cael pobol i’ch argymell i’w gilydd yn grêt, ond mae darpar gleientiaid newydd yn ceisio ‘profi cyn prynu’ fwyfwy, ac mewn llawer o amgylchiadau, mae hynny’n golygu cael golwg ar eich gwefan fel rhan o’u proses o benderfynu.

“I’r busnesau hynny sydd eisiau tanlinellu’u cysylltiadau Cymreig, neu eu treftadaeth, mae cael enw parth .cymru neu .wales yn ffordd berffaith o ddangos eu Cymreigrwydd i’r byd.”

Mae modd mabwysiadu enw parth .cymru neu .wales am £2.49 y mis drwy fynd i www.thename.wales/offer.