Ellen Jones a Lewis Rhys Jones (Llun: Facebook Heddlu'r Gogledd)
Mae Heddlu’r Gogledd yn gofidio am fam a’i mab sydd ar goll o Borthaethwy.
Dydy Ellen Jones, 36, na’i mab Lewis Rhys Jones ddim wedi cael eu gweld ers dydd Mawrth diwethaf.
Mae lle i gredu eu bod nhw’n teithio mewn car Citroen Xsara lliw aur.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.